Galatians 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chan eich bot yn veibion, yd anvonawdd Duw Yspryt ei Vap ich calonheu, rhvvn ’sy yn llefain, Abba, Dat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o herwydd eich bod yn feibion, danfonodd Duw Yspryd Ei Fab i’n calonnau, yn llefain, Abba Dad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac oblegid mai meibion ydych, danfonodd Duw i’n calonnau ni Ysbryd ei Fab, yn llefain Abba Dad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy'n gweiddi, “ Abba! Dad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, "Abba! Dad!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o herwydd eich bod yn feibion, Duw a anfonodd allan Yspryd ei Fab i'n calonnau ni, yn llefain, Abba, Dâd.