Galatians 4:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon a chwi yn adnabot Duw, and yn hytrach yn adnabodedic gan Dduw, pa wedd yr ymchwelesoch drachefn at egwan a’ thlodion ’wyddoreu, yr ei y mynwch ymgaethiwo yddynt drachefn yn eich gwrthgarn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yn awr gan adnabod Duw, ac yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol at yr egwyddorion gwan a thlodion, i’r rhai yr ewyllysiwch fod etto o newydd mewn caethiwed?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yn awr, wedi dyfod ohonoch i adnabod Duw, neu’n hytrach wedi dyfod i’ch adnabod gan Dduw, pa fodd yr ymchwelwch eilwaith at ysbrydion llesg a thlawd yr elfennau; a mynnu eilwaith o newydd eu gwasanaethu?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i'ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi'n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr, a chwithau wedi adnabod Duw, neu yn hytrach, wedi eich adnabod gan Dduw, sut y gallwch droi yn l at yr ysbrydion elfennig llesg a thlawd, a mynnu mynd yn gaethweision iddynt hwy unwaith eto?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond yn awr, a chwi wedi dyfod i adnabod Duw, neu, yn hytrach, yn cael eich adnabod gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol drachefn at y wyddorion gwan a thlodion, i'r rhai yr ydych yn dymuno drachefn o'r newydd bod mewn caeth‐wasanaeth?