Galatians 5:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys vroder, ich galwyt chwi i ryðdit: yn vnic nac arvervvch eich ryðdit yn achos ir cnawd, eithr gan gariat gwasanaethwch bawb y gylydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys chwychwi, er rhyddid y’ch galwyd, frodyr; yn unig nac arferwch y rhyddid er achlysur i’r cnawd, eithr trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys chwi, i ryddid y’ch galwyd frodyr; yn unig, na bydded eich rhyddid yn achlysur gennych i’r cnawd, ond trwy gariad, gwasanaethu’ch gilydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i'r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi'ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy'n esgus i adael i'r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr; yn unig na ddefnyddiwch eich rhyddid yn achlysur i'r cnawd; ond trwy gariad byddwch weision i'ch gilydd.