Galatians 5:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth hyny y dywedaf, Rodiwch yn yr Yspryt, ac na vid ywch gyflanwy trachwāteu y cnawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond dywedyd yr wyf, Yn yr Yspryd rhodiwch, a chwant y cnawd na chyflawnwch mo’no;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma fy meddwl — rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni chyflawnwch mo chwant y cnawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth dw i'n ei ddweud ydy y dylech adael i'r Ysbryd reoli'ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae'r chwantau eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond meddaf, Rhodiwch wrth yr Yspryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.