Galatians 5:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cā ys y cnawd a drachwenych yn erbyn yr Yspryt, a’r Yspryt yn erbyn y cnawt: a’r ei hyn a gyverbyniāt y gylyð, val na alloch wneuthur cyfryw betheu ac a vynnech.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y cnawd a chwennych yn erbyn yr Yspryd, a’r Yspryd yn erbyn y cnawd, canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i’w gilydd, fel y pethau a ewyllysioch na wneloch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys chwennych y mae’r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd, canys gwrthwyneb i’w gilydd yw’r rhai hyn, fel na alloch wneuthur pa bethau bynnag a ewyllysioch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae'r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a'r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a'r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg — yn hollol groes i beth mae'r Ysbryd eisiau. Ond mae'r Ysbryd yn rhoi'r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae'r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen — allwch chi ddim dianc rhagddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae y cnawd yn chwennych yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd; canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i'w gilydd, fel na wneloch y pethau a ewyllysioch.