Galatians 5:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nacha, mi Paul a ddywedaf wrthych, a’s chvvychvvi a enwaedir arnoch, ny vuddia Christ ðim ywch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os amdorrir chwi, Crist ni’ch llesa chwi ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele, dywedyd yr wyf fi, Paul, wrthych, od enwaedir arnoch, ni bydd Crist o ddim budd i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi — os dych chi'n mynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i'w gynnig i chi bellach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma fy ngeiriau, i, Paul, wrthych chwi: os derbyniwch enwaediad, ni bydd Crist o ddim budd i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os mynnwch enwaediad, ni leshâ Crist ddim i chwi.