Galatians 5:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
cenvigenn æ, lladdiadae, meddtot, glothinep, a’r cyffelyp petheu hyn, am pa ’rei y rac ddywedaf ywch, megis ac y rac ddywedais yvvch, na bydd ir ei a wna’r cyfryw betheu, veddy annu teyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
heresiau, cynfigennau, meddwdod, cyfeddach, a’r pethau cyffelyb i’r rhai hyn; am y rhai y rhybuddiaf chwi, fel y rhag-ddywedais, Y rhai sy’n gwneuthur y cyfryw bethau, teyrnas Dduw nid etifeddant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cenfigennau, meddwdod, cyfeddach, a phethau cyffelyb i’r rhai hyn, pethau yr wyf yn dywedyd wrthych ymlaen llaw amdanynt, megis y dywedais eisoes, na chaiff y neb a wnel y cyfryw etifeddu teyrnas Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
[llofruddiaethau ], meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf yn rhag‐ddywedyd i chwi, megys y rhag‐ddywedais, y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau ni chänt etifeddu Teyrnas Dduw.