Galatians 5:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys test i af drachefn i bop dyn, yr hwn a enwaedir arno, y vot ef yn rhwym y gadw ’r Ddeddyf oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thystiolaethu yr wyf drachefn i bob dyn yr amdorrir arno mai dyledwr yw i wneuthur yr holl Gyfraith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thystio’r wyf eto, wrth bob dyn yr enwaeder arno, mai ei ddyled yw cadw’r ddeddf i gyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a'r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n eich rhybuddio chi eto — os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn tystio unwaith eto wrth bob dyn a enwaedir, ei fod dan rwymedigaeth i gadw'r Gyfraith i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn tystio drachefn i bob dyn ar a enwaedir, ei fod yn ddyledwr i wneuthur yr holl Ddeddf.