Galatians 5:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwi ach ymddadwnaethoch y wrth Christ: pa ’r ei pynac ich cyfiawnir gan y Ddeddyf, ys cwympesoch y wrth rat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Difudd y’ch gwnaed oddiwrth Grist y rhai yn y Gyfraith a ymgyfiawnhewch; oddiwrth ras y syrthiasoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwahan-ddiddymwyd chwi oddiwrth Grist, chwi, sy’n ceisio’ch cyfiawnhau trwy ddeddf, cwympasoch oddiwrth ras.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os dych chi'n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r Gyfraith, dych chi wedi eich torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwi a wnaed yn ddirym oddiwrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhâu trwy ddeddf; chwi a syrthiasoch oddiwrth ras.