Galatians 6:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A chan hyny tra vo i ni amser, gwnawn dda ioni i bop dyn, ac yn enwedic yr ei, ’sy duylwyth y ffydd. Yr Epistol y xv. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny ynte, fel y mae amser cyfaddas genym, gweithredwn yr hyn sydd dda tuag at bawb, ac yn enwedig tua’r rhai o deulu’r ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, ynteu, tra bo i ni gyfle, gwnawn i bawb y peth sydd dda, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny felly, fel y mae gennym amser cyfaddas, gweithredwn yr hyn sydd dda tuag at bawb, ond yn enwedig tuag at y rhai o deulu y ffydd.