Galatians 6:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cynniuer ac a vynnent wneuthur wynep‐ tec yw’ch yn y cnawt, ’syð ich cym p ell i vynnu eich enwaedu, yn vnic val nad ymlidir hwy o bleit croc Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cynnifer ag sy’n ewyllysio ymdeccau yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymhell i amdorri arnoch, yn unig fel nad oblegid croes Crist yr erlidier hwynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cynifer ag sy’n mynnu teg-ymystumio o flaen dynion, cais y rhai hyn fod enwaedu arnoch, yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i'ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi ei wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhai 'u bryd ar rodres yn y cnawd yw'r rheini sy'n ceisio eich gorfodi i dderbyn enwaediad, a hynny'n unig er mwyn iddynt hwy arbed cael eu herlid o achos croes Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cynnifer ag sydd yn ewyllysio gwneuthur ymddangosiad ffafriol yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich gorfodi i'ch enwaedu, yn unig fel nad erlidier hwy am Groes Crist.