Galatians 6:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cā nad ynt wy ehunain yr ei a enwaedir, yn cadw y Ddeddyf, anyd deisyfu cael eich enwaedu chvvi, val yr ymhoffent yn eich cnawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid yw hyd yn oed y rhai yr amdorrir arnynt eu hunain yn cadw’r Gyfraith, eithr ewyllysiant i chwi amdorri arnoch, fel yn eich cnawd chwi yr ymffrostiont.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys hyd yn oed y rhai yr enwaedir arnynt, ni chadwant hwythau mo’r ddeddf, eithr mynnant fod enwaedu arnoch fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid yw'r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw'r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dydy'r rhai sydd wedi eu henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid yw'r rhai a enwaedir eu hunain hyd yn oed yn cadw'r Gyfraith. Y maent am i chwi dderbyn enwaediad er mwyn iddynt hwy gael ymffrostio yn eich cnawd chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid yw hyd y nod hwy y rhai a enwaedir yn cadw y ddeddf eu hunain, ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi.