Galatians 6:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr na bo i mi ddim ’or ymhoffi, anyd yn‐croc ein Arglwydd Iesu Christ, gan yr hwn y crogwyt y byt i mi, a’ mi nheu ir byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond i myfi, na fydded i mi ymffrostio oddieithr ynghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r Hwn y croes-hoeliwyd y byd i mi, ac myfi i’r byd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond amdanaf i, byth nad ymffrostiwyf onid yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r hwn y mae’r byd wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i’r byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i'r byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O'm rhan fy hun, cadwer fi rhag ymffrostio mewn dim ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, y groes y mae'r byd drwyddi wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr na atto Duw i mi ymffrostio ond yng Nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hon y mae y byd wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd.