Galatians 6:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr provet pop vn y’waith y h unā, ac yno y bydd ganthaw ’orvoleð yno y h un yn vnic ac nyd yn eraill.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond profed pob un ei waith ei hun, ac yna tuag at ef ei hun yn unig y bydd yr ymffrost iddo, ac nid tuag at un arall,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond profed pob un ei waith ei hun, ac yna, ynddo’i hun yn unig y bydd ei fost, ac nid mewn arall,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi ei wneud heb orfod cymharu'ch hunain â phobl eraill o hyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pob un i farnu ei waith ei hun, ac yna fe gaiff le i ymffrostio o'i ystyried ei hun yn unig, ac nid neb arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr profed pob un ei waith ei hun, ac yna y bydd iddo ei ymffrost mewn perthynas iddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn perthynas i un arall;