Galatians 6:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na thwyller chwi: ny watworir Duw: can ys pa beth pynac a heua dyn, hyny a ved ef hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn; Duw ni watworir; canys pa beth bynnag a hauo dyn, hyny a fed efe hefyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na thwyller chwi — Duw, nis gwatworir; canys pa beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch twyllo'ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw'n ei hau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na thwyller chwi; ni watworir Duw; canys pa beth bynnag a hauo dyn, hynny hefyd a fêd efe.