Genesis 1:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o'r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy o'r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Duw, "Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth had ynddo, yn l eu rhywogaeth." A bu felly.