Genesis 1:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A DUW a'u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi'n llenwi'r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear."