Genesis 11:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a'r a amcanasant ei wneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw'n un bobl sy'n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd, "Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud.