Genesis 11:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr ARGLWYDD hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.