Genesis 12:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a morynion, a chamelod iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu yntau'n dda wrth Abram er ei mwyn hi; a chafodd Abram ganddo ddefaid, ychen, asynnod, gweision, morynion, asennod a chamelod.