Genesis 12:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” A cododd Abram allor i'r ARGLWYDD oedd wedi dod ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram a dweud, "I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon." Adeiladodd yntau allor yno i'r ARGLWYDD, a oedd wedi ymddangos iddo.