Genesis 12:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a dynnodd oddi yno i'r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua'r gorllewin, a Hai tua'r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, ac a alwodd ar enw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua'r de a gwersylla yn y bryniau sydd i'r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i'r gorllewin iddo, ac Ai tua'r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna symudodd oddi yno i'r mynydd-dir tua'r dwyrain o Fethel a gosod ei babell, gyda Bethel o'i l ac Ai o'i flaen; adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, a galw ar enw'r ARGLWYDD.