Genesis 13:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i'r ARGLWYDD ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr ARGLWYDD, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychodd Lot o'i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu fel gwlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd Lot ei olwg, a gwelodd fod holl wastadedd yr Iorddonen i gyfeiriad Soar i gyd yn ddyfradwy, fel gardd yr ARGLWYDD, neu wlad yr Aifft. Yr oedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio Sodom a Gomorra.