Genesis 13:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Abram yn mynd, ac yn setlo i lawr wrth goed derw Mamre, oedd yn fan addoli yn Hebron. A dyma fe'n codi allor i'r ARGLWYDD yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna symudodd Abram ei babell a mynd i fyw wrth dderw Mamre, sydd yn Hebron; ac adeiladodd allor yno i'r ARGLWYDD.