Genesis 14:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a'r lleill a ffoesant i'r mynydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau tar. Wrth i fyddinoedd Sodom a Gomorra ddianc oddi wrth y gelyn, dyma rai ohonyn nhw yn llithro i mewn i'r pyllau. Llwyddodd y gweddill i ddianc i'r bryniau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd dyffryn Sidim yn llawn o byllau pyg; ac wrth i frenhinoedd Sodom a Gomorra ffoi, syrthiasant i mewn iddynt, ond ffodd y lleill i'r mynydd.