Genesis 15:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di — y tir i gyd o Wadi'r Aifft i afon fawr Ewffrates.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud: "I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates."