Genesis 16:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Sarai a ddywedodd wrth Abram, Wele yn awr, yr ARGLWYDD a luddiodd i mi blanta: dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y caf i blant trwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Sarai wrth Abram, "Edrych yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhwystro imi ddwyn plant. Dos at fy morwyn; efallai y caf blant ohoni hi." Gwrandawodd Abram ar Sarai.