Genesis 16:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a'i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Hagar yr Eifftes, a'i rhoi'n wraig i'w gu373?r Abram.