Genesis 17:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a rhoi mab i ti ohoni hi. Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a bydd hi yn fam i lawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd gwahanol bobloedd yn dod ohoni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni."