Genesis 17:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydda i'n cadarnhau yr ymrwymiad dw i wedi ei wneud gydag Isaac. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma'r flwyddyn nesa.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond byddaf yn sefydlu fy nghyfamod ag Isaac, y mab y bydd Sara yn ei eni iti erbyn yr amser yma'r flwyddyn nesaf."