Genesis 17:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a'r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a'r rhai oll a brynasai efe â'i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai DUW wrtho ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly'r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a'i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi eu prynu) — pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymerodd Abraham ei fab Ismael, a phawb a anwyd yn ei du375? neu a brynwyd 'i arian, pob gwryw o deulu Abraham, ac enwaedodd gnawd eu blaengrwyn y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Duw wedi dweud wrtho.