Genesis 18:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a'i hadwaen ef, y gorchymyn efe i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr ARGLWYDD, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo'r ARGLWYDD ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a pawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Na, fe'i hysbysaf, er mwyn iddo orchymyn i'w blant a'i dylwyth ar ei l gadw ffordd yr ARGLWYDD a gwneud cyfiawnder a barn, fel y bydd i'r ARGLWYDD gyflawni ei air i Abraham."