Genesis 18:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd, "Na ddigied yr ARGLWYDD os llefaraf. Ond beth os ceir yno ddeg ar hugain?" Dywedodd yntau, "Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain."