Genesis 18:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd, "Peidied yr ARGLWYDD digio wrthyf am lefaru y tro hwn yn unig. Beth os ceir yno ddeg?" Dywedodd yntau, "Ni ddinistriaf hi er mwyn y deg."