Genesis 18:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Af i nôl ychydig o fwyd i'ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae'n fraint i mi eich bod wedi dod heibio cartre'ch gwas.” A dyma nhw'n ateb, “Iawn, gwna di hynny.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dof finnau thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas." Ac meddant, "Gwna fel y dywedaist."