Genesis 18:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a'r llo a baratoesai efe, ac a'i rhoddes o'u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi ei rostio a'i osod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra roedden nhw'n bwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd gaws a llaeth a'r llo yr oedd wedi ei baratoi, a'u gosod o'u blaenau; yna safodd gerllaw o dan y goeden tra oeddent yn bwyta.