Genesis 19:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â'i wyneb tua'r ddaear;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ddau angel yn cyrraedd Sodom pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd Lot yn eistedd wrth giât y ddinas. Pan welodd Lot nhw, cododd i'w cyfarch, ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'u blaenau nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y ddau angel i Sodom gyda'r hwyr, tra oedd Lot yn eistedd ym mhorth Sodom. Pan welodd Lot hwy, cododd i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,