Genesis 19:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i'ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fy meistri,” meddai wrthyn nhw, “plîs dewch draw i'm tŷ i. Cewch aros dros nos a golchi eich traed. Wedyn bore fory cewch godi'n gynnar a mynd ymlaen ar eich taith.” Ond dyma nhw'n ei ateb, “Na. Dŷn ni am aros allan ar y sgwâr drwy'r nos.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, "F'arglwyddi, trowch i mewn i du375? eich gwas dros nos, a golchwch eich traed; yna cewch godi'n fore a mynd ar eich taith." Dywedasant hwy, "Na, arhoswn heno yn yr heol."