Genesis 19:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda'm tad; rhoddwn win iddo ef i'w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y bore wedyn dyma'r hynaf yn dweud wrth yr ifancaf, “Gwnes i gysgu gyda dad neithiwr. Gad i ni roi gwin iddo eto heno, a chei di gysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf, "Dyna fi wedi gorwedd gyda'm tad neithiwr; gad inni roi gwin iddo i'w yfed eto heno, a dos dithau i orwedd gydag ef, er mwyn inni gael epil o'n tad."