Genesis 19:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno hefyd: a'r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gwneud i'w tad feddwi y noson honno eto. A dyma'r ifancaf yn mynd at ei thad ac yn cael rhyw gydag e. Ond eto, roedd Lot yn rhy feddw i wybod dim am y peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly rhoesant win i'w tad i'w yfed y noson honno hefyd; ac aeth yr ieuengaf i orwedd gydag ef, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.