Genesis 19:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i'r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cysgu hefo dyn. Beth am i mi ddod â nhw allan atoch chi. Cewch wneud beth dych chi eisiau iddyn nhw. Ond peidiwch gwneud dim i'r dynion yma — maen nhw'n westeion yn fy nghartre i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychwch, y mae gennyf ddwy ferch heb gael cyfathrach gu373?r; dof hwy allan atoch. Cewch wneud iddynt hwy fel y dymunwch, ond peidiwch gwneud dim i'r gwu375?r hyn, gan eu bod wedi dod dan gysgod fy nghronglwyd."