Genesis 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du'r dwyrain i Asyria: a'r bedwaredd afon yw Ewffrates.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tigris ydy enw'r drydedd afon. Mae hi'n llifo i'r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw'r bedwaredd afon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac enw'r drydedd yw Tigris; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwaredd afon yw Ewffrates.