Genesis 2:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD DDUW a luniodd o'r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a'u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o'r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai'n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw.