Genesis 20:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymerth Sara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i'w chymryd iddo ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yno dywedodd Abraham am ei wraig Sara, "Fy chwaer yw hi"; ac anfonodd Abimelech brenin Gerar am Sara, a'i chymryd.