Genesis 20:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a'r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw ei swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd Abimelech yn fore, a galw ei holl weision a dweud wrthynt am yr holl bethau hyn; a chafodd y dynion fraw mawr.