Genesis 21:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a'i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a'r bachgen hefyd, ac efe a'i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Abraham yn codi'n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar ei gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda'i mab, ac aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddu373?r a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba.