Genesis 22:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o'i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a'i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu l iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab.