Genesis 22:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i'r lle a ddywedasai DUW wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Abraham yn codi'n fore, torri coed ar gyfer llosgi'r offrwm, a'u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o'i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho.