Genesis 23:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Eto, os tydi a'i rhoddi, atolwg, gwrando fi: rhoddaf werth y maes; cymer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i'n cytuno. Dw i'n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd wrth Effron yn eu clyw, "Os felly, gwrando arnaf; yr wyf am roi i ti bris y maes; cymer hyn gennyf, er mwyn imi gael claddu fy marw yno."