Genesis 24:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a'i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr ARGLWYDD fi i dŷ brodyr fy meistr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Abraham, fy meistr! Mae wedi bod yn gwbl ffyddlon i'w addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi fy arwain i gartref teulu fy meistr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am nad ataliodd ei garedigrwydd a'i ffyddlondeb oddi wrth fy meistr. Arweiniodd yr ARGLWYDD fi ar fy nhaith i du375? brodyr fy meistr."